
Cyfarfyddiadau Affeithiol: Myfyrdodau a Ddeilliodd o’r Lle Llais


“It is of the essence of life that it does not begin here or end there, or connect a point of origin with a final destination, but rather that it keeps on going, finding a way through the myriad of things that form, persist and break up in its currents. Life, in short, is a movement of opening, not of closure.”
Tim Ingold, Being Alive: Essays on Movement, Knowledge and Description
Rhwng Gorffennaf a Medi 2024, cynlluniwyd a chyflwynwyd pedwar digwyddiad ymgysylltu aml-ddiwrnod ledled Ynys Môn gan dîm y Llwyfan Map Cyhoeddus – sef y Lle Llais. Roedd y digwyddiadau hyn yn fwy na chynulliadau – roeddynt yn gyfarfyddiadau amlsynnwyr, gan weithio gydag/oddi mewn i ddiwylliannau, tirweddau ac iaith unigryw Cymru. Llwyddodd y Lle Llais i gysylltu pobl â lle, gan wahodd plant a phobl ifanc i symud, cyffwrdd, synhwyro, edrych, adeiladu, gwrando, arogli, siarad a chwarae.
Bwriadwyd i’r Lle Llais fod yn ddigwyddiad ymgysylltu ac yn ymholiad ymchwil, gan gysylltu pobl ifanc a theuluoedd gyda phrosiect y Llwyfan Map Cyhoeddus, yn ogystal â phrototeipio methodoleg newydd, a elwir yn Gyfarfyddiadau Affeithiol. Mae’r fethodoleg hon wedi’i hymwreiddio mewn ymchwil sy’n seiliedig ar gelfyddyd, ac mae’n dwyn ynghyd strwythurau pensaernïol dros dro (a elwir yn Ystafelloedd Crwydrol Gwledig), gweithgareddau ymgysylltu artistig a phrofiad corfforedig. Mae’n gofyn: beth fydd yn digwydd pan fyddwn yn gwrando ar y naill a’r llall ac ar y lleoliad, nid yn unig gyda’n clustiau, ond gyda’n dwylo, ein traed, ein llygaid, ein croen a’n hanadl?
Ymgasglodd clystyrau o blant ar dwyni Traeth Llanddwyn, gyda phob un yn gwisgo masgiau gwenyn wedi’u gwneud o bapur. Criw o bobl fach, yn arogli nodwyddau pinwydd, yn eistedd ar foncyffion, yn eistedd ar y ddaear, yn pwyso yn erbyn coed, yn pwnio’i gilydd gyda phriciau, ac yn gwneud lluniau o’r hyn a lwyddodd i ddenu eu llygaid. Yn casglu pethau yr hoffent eu cyffwrdd, ac yn treulio amser yn disgrifio’r hyn roeddynt yn ei deimlo. Mae’r haul yn tywynnu. Mae’n fore cynnes ym mis Medi. Mae’r athro’n cyhoeddi eu bod ar fin mynd i’r orsaf weithgareddau nesaf. Mae criw o wenyn mewn siwmperi gwyrdd a throwsusau cwta yn troedio i lawr llwybr hir y goedwig. Mae un ohonynt yn bloeddio “a gawn ni fod yn y goedwig bob diwrnod?”.
Mae’r adegau hyn – a llawer mwy – bellach yn rhan o fap y Llwyfan Map Cyhoeddus: cofnod byw, amlhaenog o ganfyddiadau a phrofiadau plant o safleoedd penodol ar Ynys Môn. Wrth inni symud ymlaen, bydd y gwaith hwn yn llywio’r modd y datblygir ac y defnyddir methodoleg ymchwil cyfarfyddiadau affeithiol, a’r modd y gall penderfyniadau cynllunio awdurdodau lleol ganolbwyntio ar leisiau, anghenion a gwybodaeth plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Y pethau hollbwysig a ddysgwyd yn sgil y Lle Llais
Mae ein papur ymchwil sydd ar fin cael ei gyhoeddi, sef Cyfarfyddiadau Affeithiol, yn nodi’r fethodoleg a seiliwyd ar ymarfer, yr ymchwil a’r canfyddiadau hollbwysig a ddeilliodd o gynllunio a chyflawni’r Lle Llais. Cynhaliwyd amryfal ddigwyddiadau’r Lle Llais am y tro cyntaf yn ystod Haf 2024, ac fe wnaethom ddysgu llawer yn sgil y broses. Dyma rai argymhellion hollbwysig ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn cynllunio digwyddiadau ystyrlon, safle-benodol, sy’n seiliedig ar gelfyddyd, gyda phlant a phobl ifanc:
- Gweithiwch gyda grwpiau ieuenctid lleol dros amser. Mae cydlunio yn gweithio ar ei orau pan fo wedi’i ymwreiddio mewn cydberthnasau. Dylid ymwreiddio digwyddiadau’r dyfodol am o leiaf chwe mis mewn proses gydweithredu gyda grwpiau cymunedol lleol sydd wedi ennill eu plwyf.
- Mae gwaith mapio’r Llwyfan Map Cyhoeddus wrth galon a chraidd y Lle Llais. Ceisiwch gyfleu i ddinasyddion a phartneriaid cymunedol y modd y mae digwyddiadau’r Lle Llais yn casglu profiad a gwybodaeth dinasyddion Ynys Môn (neu rywle arall) ac esboniwch sut a phryd y bydd y data hwn yn cael ei gynnwys ar fap y Llwyfan Map Cyhoeddus.
- Cynlluniwch yn ofalus. Mae’n hanfodol cael amserlen glir ymlaen llaw – amserlen a fydd yn ymdrin â phopeth, o raglennu a chomisiynu celf i drafnidiaeth, storio, asesu risgiau, ac yswiriant.
- Cadwch y fformat yn fyr ac yn fynych. Yn aml, mae digwyddiadau byrrach a gynhelir yn amlach yn ei gwneud hi’n haws i gynnal yr egni ac addasu i rythmau’r cyfranogwyr.
- Materion yn ymwneud â staffio. Mae digwyddiadau llwyddiannus angen cynlluniau staffio realistig a rolau cynhyrchu pendant a chlir – yn enwedig wrth gydgysylltu a rheoli pobl.
- Safleoedd: dylai digwyddiadau’r dyfodol fod mewn cytgord â chyd-destunau ieithyddol, diwylliannol ac ecolegol y safleoedd, gan weithio gyda’r elfennau hynny.
- Hygyrchedd i bawb: Rhaid cynllunio digwyddiadau’r dyfodol mewn ffordd a fydd yn sicrhau bod safleoedd y digwyddiadau’n hygyrch i gyrff a meddyliau amrywiol.
- Gwnewch yn siŵr bod y digwyddiadau’n gynhwysol: Gwnewch yn siŵr bod digwyddiadau’r Lle Llais yn cynnwys pobl o bob math, gan gynnwys grwpiau wedi’u hymyleiddio. Mae digwyddiadau cynhwysol yn creu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo’n werthfawr ac yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, a lle cânt gyfle i gyrraedd eu potensial.
- Cymorth wedi’i dargedu: Gwnewch yn siŵr bod amser, arian ac adnoddau ar gael i wahodd a chynorthwyo teuluoedd nad oes ganddynt ryw lawer o amser hamdden ac nad ydynt yn gyrru neu’n berchen ar eu car eu hunain.
- Mae pensaernïaeth dros dro yn arwain at fewnweithredu. Trwy ddefnyddio gosodweithiau pensaernïol fel yr Ystafelloedd Crwydrol Gwledig, gellir esgor ar gysylltiad gwell rhwng plant a phobl ifanc, yr amgylchedd, eu synhwyrau, a’r naill a’r llall. Cofiwch barhau i ddefnyddio’r Ystafelloedd Crwydrol Gwledig i ennyn diddordeb y cyhoedd yn y Llwyfan Map Cyhoeddus.
- Mae seremoni yn creu ystyr. Trwy gynnwys corau, beirdd a gorymdeithiau, llwyddwyd i greu adegau a oedd yn llawn cyfranogi cymunol, llawenydd a myfyrio. Gwelsom pa mor bwerus y gall yr elfennau hyn fod.
- Mae iaith yn bwysig. Rhaid i ddigwyddiadau’r dyfodol sicrhau bod staff dwyieithog wrth law a bod yr holl negeseuon yn cael eu hysgrifennu mewn Cymraeg llafar, hawdd ei ddeall. Dylai siaradwyr Cymraeg brawf-ddarllen a phrofi deunyddiau dwyieithog.
- Symleiddiwch yr offer ymgysylltu. Dylid ysgrifennu’r cardiau gweithgareddau mewn iaith glir a chryno, ac ar bapur gwrth-ddŵr y gellir gwneud lluniau a brasluniau arno’n rhwydd. Dylai offer arolygu fel Kobo gynnwys cwestiynau synhwyraidd, corfforedig – gan archwilio pam y mae siaradwyr Cymraeg yn aml yn dewis llenwi’r arolwg yn y Saesneg.
- Ewch ati i gofnodi a chyfleu’r pethau na chânt eu dweud. Dylai pob gorsaf gweithgareddau fod ag ymchwilydd-hwylusydd penodol fel y gellir gwneud nodiadau maes yn ymwneud ag ymgysylltu synhwyraidd: cyffyrddiad, arogl, sŵn, golwg, blas.
Dylai’r myfyrdodau ymarferol hyn orwedd ochr yn ochr â’n canfyddiadau academaidd a chreadigol, gan ymwreiddio theori yng ngwead a chyd-destunau profiadau bywyd safle-benodol. Gyda’i gilydd, mae dulliau ymchwil pensaernïol dros dro, safle-benodol, sy’n seiliedig ar gelfyddyd, yn sylfaen i’r fethodoleg cyfarfyddiadau affeithiol, sy’n ystyried bod safleoedd, corfforiad, pensaernïaeth a’r celfyddydau yn gysylltiedig ac yn blethedig.
Beth nesaf?
Byddwn yn rhannu ein hymchwil mewn cyhoeddiad academaidd a hefyd mewn cyflwyniad a gaiff ei rannu yng Nghynhadledd y Gymdeithas Gymdeithasegol Ryngwladol (2025) yn Rabat, Moroco. Ac mae cynlluniau eisoes ar waith i gynnal rownd arall o ddigwyddiadau’r Lle Llais ar Ynys Môn ym mis Gorffennaf – digwyddiadau a gaiff eu caboli ar sail y pethau a ddysgwyd ac a gaiff eu harwain gan leisiau’r rhai a gymerodd ran ynddynt y tro cyntaf.
Y nod? Byddwn yn parhau i blethu ymchwil sy’n seiliedig ar gelfyddyd, pensaernïaeth dros dro a chyfarfyddiadau safle-benodol, a byddwn yn cynnwys y profiadau hynny ar y Llwyfan Map Cyhoeddus. Yn ogystal â sicrhau bod profiadau corfforedig pobl ifanc yn cael eu clywed a’u teimlo, ein nod yw sicrhau y byddant yn cael eu hymwreiddio mewn polisïau, prosesau a lleoedd.